
Plaid Cymru yn lansio mudiad ieuenctid newydd
Mi fydd Plaid Cymru yn lansio ei Mudiad Ieuenctid newydd yng Nghynhadledd y Blaid yn Aberystwyth. Bydd y lansiad yn digwydd yn ystod cyfarfod ymylol ar dydd Iau y 15fed o Fedi am 12.30 y prynhawn gyda'r Cynghorydd Gwenllian Lansdowne, Leanne Wodd AC ac Adam Price AS fel siaradwyr gwadd.
Byddem yn datgelu enw newydd y Mudiad Ieuenctid, ynghyd a'r wefan newydd a pholisiau'r Mudiad. Mi fydd hyn yn gyfnod cyffroes i'r Mudiad newydd, ac yn gyfle gwych i ennyn pobl ifanc i fod yn rhan o'r prosiect newydd. Gyda'r nos bydd yna Gig acwstic yn nhafarn y Cwps Aberystwyth i ddathlu'r lansiad
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Bethan Jenkins ar 07725144100 neu Morgan Lloyd ar 07867144968