Text Size: NORMAL LARGE

CYMRU X ORGANISER TO SPEAK AT SNP CONFERENCE 4/4/06

Date: 4-April-2006

Mae Bethan Jenkins, Trefnydd Cymru X, wedi’i gwahodd i siarad yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP), sydd i’w chynnal yn Dundee y penwythnos hwn (8fed Ebrill). Mae adain Ieuenctid y Blaid, Young Scots for Independence, wedi efelychu syniad Cymru X o gynnal refferendwm tecst, ac wedi gwahodd Bethan i’r Alban i siarad am refferendwm tecst Cymru X a phwysigrwydd mudiadau ieuenctid gwleidyddol.


Dywedodd Bethan Jenkins:
“Mae’n anrhydedd i mi gael fy ngwahodd i siarad yng Nghynhadledd yr SNP am Gymru X. Llwyddiant mawr fu ein refferendwm tecst a alwodd ar bobl ifanc i decstio naill ai Ie neu Na o ran Senedd ddeddfwriaethol lawn i Gymru, y refferendwm tecst cyntaf o’i fath. Rwyf am rannu syniadau ymgyrchu mor arloesol â mudiadau ieuenctid eraill, a thrwy syniadau o’r fath, annog pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses wleidyddol.”


Aeth Bethan ymlaen i ddweud:


"Caiff refferendwm tecst yr SNP, sy’n gofyn ‘A ddylai’r Alban fod yn annibynnol?’ ei gynnal am flwyddyn lawn, gan y byddant yn cynnal refferenda eraill ar yr un pryd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â materion ieuenctid e.e. a ddylai’r isafswm cyflog fod yn hafal ar draws bob oedran?, a ddylid lleihau’r oedran pleidleisio? Bydd hefyd yn rhoi’r cyfle i’r Mudiad Ieuenctid dwyn sylw i faterion lleol gyda changhennau yn defnyddio’r mecanwaith tecstio i goladu canlyniadau lleol. Maent yn lansio’r refferendwm tecst yn y Gynhadledd, ac rwy’n falch o fod yn cynrychioli Cymru X yng Nghynhadledd yr SNP.’
 

Diwedd/Ends