Text Size: NORMAL LARGE

Launching Cymru X South West Wales 5/12/05

Date: 5-December-2005

Bydd Cymru X, Plaid Cymru Ifanc yn cael ei lansio’n swyddogol yn y De Orllewin nos Lun nesa (Rhagfyr y 5ed). Bydd y cyfarfod yn dehcrau am 7:30 yng Nghlwb y Quins, Caerfyrddin. Ymysg y siaradwyr bydd Adam Price, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a Rhodri Glyn Thomas, Aelod Cynulliad yr ardal. Bydd Cymru X  y De Orllewin yn cwmpasu ardal Sir Gâr ac Abertawe i gychwyn.


Meddai trefnydd Cymru X yn y De Orllewin, Anthony Richards:


“Mae Cymru X yn fudiad radical i bobl ifanc. Mae’r lansiad lleol wedi ei drefnu er mwyn trosglwyddo’r cyffro i ardaloedd Sir Gâr ac Abertawe, Cyffro sydd wedi ei sefydlu ar lefel genedlaethol. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd pobl ifanc sydd â unrhyw ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth yn mynychu’r cyfarfod. Mae lle i bawb gynnig syniadau fel ran o’r mudiad radical hwn.”


Meddai Rhodri Glyn Thomas, Aelod Cynulliad Caerfyrddin a Dinefwr:


“Mae pobl ifanc yn cael eu cyhuddo dro ar ôl tro o fod yn anwleidyddol. Dwi’n anghytuno’n llwyr gyda’r honiad hyn. Mae Cymru X yn fenter cyffrous. Mae’n cynnig ffordd i bobl ifanc wyntyllu eu syniadau gwleidyddol, pobl ifanc sydd am weld Cymru ffyniannus a phobl ifanc sydd am ymgyrchu dros faterion llosg. Yn fwy na hyn, mudiad sy’n benderfynol o fynnu hawliau pobl ifanc yng Nghymru ac yn Rhyngwladol.”

Diwedd / Ends


Nodiadau i’r Golygyddion
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Jonathan Edwards 01269 597 677