Text Size: NORMAL LARGE

Polisïau CymruX

Addysg

Hawl sylfaenol i bawb

Yn anffodus nid yw'r llywodraeth Llafur Newydd yn cytuno â hyn. Mae hyd yn oed y Fib-dems wedi neidio i'r gwely gyda Llafur yn yr Alban a chyflwyno trethi i raddedigion - sef ffioedd dysgu o dan enw arall.

Credwn mewn sustem addysg sydd am ddim i bawb, lle rhoddir GRANTIAU, ac nid benthyciadau i astudio. Rydym yn erbyn ffioedd dysgu a ffioedd atodol a gwrthwynebwn farchnadeiddio'r sustem addysg uwch.

Y dewis o addysg bellach

Credwn fod gan bawb yr hawl i addysg brifysgol am ddim, ond credwn hefyd y dylid rhoi mwy o bwyslais a help i gynlluniau prentisiaeth i'r rhai sy'n DEWIS peidio â dilyn cwrs gradd. Bydd hyn yn rhoi gyrfaoedd da a chrefft arbennig i bobl ifanc mewn nifer o feysydd lle gwelir prinder sgiliau ar hyn o bryd.

Cartrefi

Mae pobl ifanc yng Nghymru yn wynebu argyfwng tai sydd wedi gwaethygu o dan Llafur.

Prynu Cartref

Erbyn nawr nid yw'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn gallu fforddio prynu cartref - hyd yn oed os ydynt yn ennill cyflog da.

Bydd CymruX yn rhoi pwysau ar y llywodraeth i ddatblygu cynllun Cenedlaethol er mwyn sicrhau fod pobl ifanc yn gallu fforddio cartrefi - trwy ymddiriedolaethau cymunedol, cynlluniau tai i bobl leol a chynlluniau tai fforddiadwy i bobl sy'n prynu am y tro cyntaf.

Rhenti Tai/Tai myfyrwyr

Mae angen mwy o reolaeth dros y landlordiaid i sicrhau fod pob ty sydd wedi'i renti yn cyrraedd safon dderbyniol. Mae hefyd angen lobïo'r prifysgolion i sicrhau nad ydynt yn prisio myfyrwyr allan o addysg trwy godi rhent sy'n arswydus o uchel.

Rhyngwladol

Nid yw goddefgarwch a dealltwriaeth ryngwladol erioed wedi bod mor bwysig ag ydyw heddiw.

Nid oedd y mwyafrif helaeth o bobl am i'r wlad hon fynd i ryfel a meddiannu Iraq - ond fe aeth Blair a Bush ati beth bynnag. Nid oes gan Iraq gysylltiad gyda 9/11 - ond cafodd miloedd o bobl ddiniwed eu lladd yn enw'r 'rhyfel ar derfysgaeth'. Mae'r fath yma o bolisi tramor wedi arwain at fwy o derfysgaeth yn y byd.

• Bydd CymruX yn ymgyrchu i godi goddefgarwch yn y wlad hon ac yn rhyngwladol, a dod â hiliaeth i ben.

• Byddwn yn ymgyrch i ddod â chefnodaeth y Llywodraeth o bolisi tramor anghyfreithlon UDA i ben.

• Byddwn yn ymgyrchu yn erbyn ymdrechion y Llywodraeth i leihau ein hawliau sifil e.e. cardiau ID.

Annibyniaeth

Yn syml, credwn mai pobl Cymru sydd â'r hawl i benderfynu tynged eu gwlad.

Dim ond trwy gael pwerau deddfu llawn y gallwn wneud gwir wahaniaeth i fywydau pawb sy'n byw yng Nghymru. Rydym eisiau i Gymru sefyll ochr yn ochr â chenhedloaedd eraill y byd, a chael ein hystyried yn genedl sy'n flaengar, yn deg ac yn heddychlon.

Annibyniaeth am reswm

Dim newid pennaeth gwlad neu faner yw'r peth pwysicaf am annibyniaeth, ond newid cymdeithas. Bydd hunan-lywodraeth o fewn Ewrop yn ein galluogi i wella cymdeithas er budd pob un yn y wlad - nid y cyfoethog yn unig. Gydag annibyniaeth gallwn weithredu polisiau gwir-sosialaidd i wella Cymru i bawb

Amgylchedd

Mae angen cynllun cadarnhaol i ddod i'r afael a phroblemau amgylcheddol a phroblemau ynni sy'n ein hwynebu.

Ailgylchu

Rydym angen hyrwyddo pwysigrwydd ailgylchu a lleihau gwastraff yn y cartref ac o fewn diwydiant. Mae'n rhaid i'r llywodraeth ddarparu cyfleusterau ailgylchu ledled Cymru, a chynllun i gasglu gwastraff i'w ailgylchu o bob cartref.

Adnewyddadwy nid Niwclear

Cefnogwn ymdrechion trefniadau sy'n hyrwyddo datblygu ffynonellau newydd o ynni adnewyddadwy. Ymgyrchwn yn erbyn ynni niwclear, ac ymdrechwn i bwyso ar y Llywodraeth i roi cyllid sylweddol i ddatblygu dulliau amgen o greu ynni megis gwynt, solar, y môr a biomas.

Mae'n hanfodol hefyd i godi ymwybyddiaeth ynglyn â lleihau llygredd ac arbed ynni yn y cartref.

Iaith

Mae pob iaith a diwylliant yn y byd yn werthfawr.

Maent yn rhoi lliw ac amrywiaeth i fyd a fyddai fel arall yn ddiflas. Yng Nghymru rydym yn falch fod gennym hanes hir o roi croeso i bobl a diwylliannau o bedwar ban y byd i fod yn rhan o'n gwlad.

Cefnogwn wledydd eraill sy'n ymdrechu a brwydo i gadw eu hieithoedd a'u diwylliannau yn fyw.

Yr iaith Gymraeg

Credwn fod gan bawb yng Nghymru yr hawl i gael gwasanaethau trwy'r Gymraeg yn ogystaf â'r Saesneg - nid yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd. Mae deddfwriaeth ar yr iaith Gymraeg yn dal i gael ei benderfynnu yn Llundain!

Byddwn yn rhoi pwysau ar y Cynulliad i fynnu fod y pwer i ddeddfu am yr iaith yn cael ei drosglwyddo i Gymru - er mwyn i ni allu credu Deddf Iaith sy'n gweithio'n effeithiol.